Dosbarth Cynganeddu
Karen Owen
yn cyflwyno cyfres o 10 gwers gynganeddu yng Nghae'r Gors
Bob nos Lun am 8 yr hwyr
Dosbarth cyntaf 27ain Medi 2010
Bydd y sesiwn gyntaf yn cynnwys gwaith adolygu
Am fwy o wybodaeth neu i archebu lle, cysylltwch a'r Ganolfan:
Cae'r Gors
Canolfan Dreftadaeth Kate Roberts
Rhosgadfan
Caernarfon
LL54 7EY
01286 831715
post@caergors.org
Carnifal Rhosgadfan Carnival
Dydd Sadwrn Awst 21, 2010 - Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Sesiynau Ymwybyddiaeth Iaith
Oes ganddoch chi ddiddordeb yn hanes a datblygiad yr iaith Gymraeg yn eich ardal leol?
Bydd cynrychiolwyr o Fwrdd yr Iaith ac adran Cymraeg i Oedolion y Brifysgol yn dod draw i Gae'r Gors i roi dau gyflwyniad am sefyllfa'r iaith yn yr ardal, a rhoi cyfle i drafod syniadau am sut y gallwn helpu dysgwyr i integreiddio'n llawn yn ein cymunedau.
Bydd y sesiwn gyntaf, ar gyfer Cymry Cymraeg, neu ddysgwyr rhugl, yn cael ei chynnal nos Fercher, 9fed o Fehefin am 7.30pm.
Bydd ail sesiwn, wedi'i theilwra ychydig yn wahanol ar gyfer dysgwyr, yn cael ei chynnal yr wythnos ganlynol, nos Fercher 16eg o Fehefin am 7.30pm.
Am fwy o fanylion, cysylltwch ag Elliw Glyn (Cynllun Gweithredu Iaith Arfon) ac 01286 684700, neu Gwenllian Williams (Ysgrifenydd Canolfan Dreftadaeth Cae'r Gors) ar 01286 830163.
Hysbyseb swydd Swyddog Gweinyddol - cliciwch yma
Gweithdai Crefft Y Lon Wen - Cliciwch yma am y poster
Cofio Dr.Kate (24/04/10)- Cliciwch yma am y poster.
Gwersi Cynganeddu yn cychwyn ar 19:4:2010
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Hwyl Efo'r Hwiangerddi - cwrs un-dydd ar 8:5:2010
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Canolfan Dreftadaeth Kate Roberts yn cyflwyno
CYFRES Y CABAN
Cyfle i drafod a holi fel yn y caban chwarel gynt
7.30yh, nos Iau, 17eg o Fedi 2009 yn
Neuadd Goffa Penygroes
GWILYM OWEN
yn honni mai:
"Gweledigaeth yn hytrach na gwleidyddiaeth - dyna angen pennaf y Fro Gymraeg heddiw"
Llywydd: Bethan Jones Parry
Dewch draw i wrando a chyfrannu - cyfle prin i gael mynegi barn yn gyhoeddus!
Pris mynediad: £3 y pen
"Yna mwyned ymuno - yn y sbri
Yn yr herian ffri, rhannu, ffraeo"
Allan o awdl 'Cwm Carnedd', Gwilym R Tilsley
GAIR O GAE'R GORS
‘Da chi eisiau teimlo’n hen? Wel mae ‘Te yn y Grug’ yn 50 oed eleni! ‘Da chi’n cofio’r gyfrol – yr un hefo clawr mor biws a’r grug ar Foel Smytho! I ddathlu mae Cae’r Gors yn cynnal Gwyl y Grug trwy gydol mis Gorffennaf ac Awst i ddathlu’r achlysur. Mi fydd yna nifer o weithgareddau yn cael eu cynnal, fel teithiau cerdded yn seiliedig ar y rhai sydd yn y gyfrol ‘O Gwmpas y Foel’ gan Dewi Tomos, ‘Chwarel a Phentref’ fydd y gyntaf ac yn naturiol ‘Te yn y Grug’ i orffen. Bydd y teithiau yn cael eu cynnal bob prynhawn Sul o Orffennaf 19fed hyd at Awst 30ain, ac yn cychwyn o Gae’r Gors am 2 y.p. Yn ystod y daith olaf bydd perfformiad arbennig, pan fydd Begw, Mair a Winni yn llythrennol godi o’r grug
Mae’r cyfan yn cychwyn beth bynnag a’r y 25ain o Orffennaf gyda ‘Hwyl yr Haf’ yng Nghae’r Gors ac ar dir Clwb Pêl-droed Mountain Rangers. Cewch y cyfle i ennill hamper, taflu sbwng gwlyb at y stocs, cael barbeciw, chwarae gemau fel gwthio’r geiniog, peintio wynebau a mwy.
Byddwn hefyd yn cynnal twrnamaint pêl-droed i blant yng nghlwb pêl-droed Mountain Rangers ar y 15fed o Awst a bydd penwythnos agored yma dros wyl y banc.
‘Da chi’n mynd i’r Steddfod yn y Bala? Mi fyddwn ni yno drwy gydol yr wythnos, a bydd y dathlu yn parhau. Ar brynhawn Llun yr Eisteddfod bydd Dr. Jerry Hunter ,o Benygroes, yn lawnsio cystadleuaeth stori fer newydd sbon ar stondin Prifysgol Bangor yn union cyn y coroni. Ar y dydd Iau bydd te parti ar stondin Academi – ychydig o jeli a the go arbennig - gobeithio. Felly dewch draw i Gae’r Gors ac i’r Eisteddfod dros yr haf i ddathlu penblwydd ‘Te yn y Grug’ yn hanner canrif. Ac i fwynhau’r gyfrol sy’n fythol ifanc – er ein bod ni i gyd yn mynd yn hen.
Caban “Cae’r Gors”, Rhosgadfan
am 7.00yh, nos Fawrth, 19eg o Fai 2009
Croeso cynnes i bawb!
CLWB PêL DROED MOUNTAIN RANGERS
RHOSGADFAN
Stompfeistr:
Arwel ‘Pod’ Roberts
Tocynnau — £4.00
Ar gael yng Nghae’r Gors a Chlwb Mountain Rangers


Ar nosweithiau lau dros gyfnod o ddeg wythnos mae "Met's Kate" wedi bod yn cyfarfod yng Nghae'r Gors - Canolfan Treftdaeth Kate Roberts - i greu straeon digidol- Creuwyd chwech stori dan arweinied Rhian Cadwaladr- a Gwion Llwyd o "Cadwyd". Straeon yw'r rhain sydd yn rhoi cipolwg i fewn i'r hyn sy'n bvvysig i bobl ifanc heddiw.
Defnyddiwyd gliniaduron Apple Mac a fenthycwyd gan Ysgol Gynradd Llanrug i roi lluniau a lleisiau at eu gilydd a creu straeon byrion rhyw 3 munud o hyd ar ffurff dvd.
Mi fydd y straeon yn cael eu dangos mewn noson arbennig yn neuadd Carmel arr nos Iau Ebrill 23ain.

Mis Mawrth yng Nghae’r Gors
Dyma’r hyn sydd wedi bod yn digwydd yn y ganolfan y mis yma.
Rheolwraig newydd
Mae Bethan Jones Parry wedi cychwyn ar ei swydd newydd fel Rheolwraig y Ganolfan. Roedd efo Heddlu Gogledd Cymru cyn dod yma ac mae’n edrych ymlaen i weithio mewn awyrgylch braf, yng ngwynt y mynydd ac ymhell o swn dihirod medda’ hi!
Galwch draw dros y Pasg
Pam na ddewch chi i ymweld â ni rhywbryd gwyliau’r Pasg? Fe fydd arddangosfa o lawysgrifau Kate Roberts i’w gweld yng nghaban Cae’r Gors. Fe fydd y tŷ ei hun yn agored wrth gwrs a’r ardd wedi ei phlannu at y gwanwyn. Fe fydd gennym stondin hefyd yn y Ffair Grefftau yng Nglynllifon yr un pryd. Ewch i’r wefan am ragor o weithgareddau.
Trefnu trip?
Os ydych chi eisiau taith werth chweil i’ch clwb neu gymdeithas yr haf yma yna cofiwch am ‘Gae’r Gors’. Cewch deithio yn ôl ganrif i ddechrau wrth i chi gamu dros drothwy hen gartref Brenhines ein Llên. Mae modd i ni deilwrio eich ymweliad yn arbennig i chi wedyn trwy drefnu sgwrs dros baned am unrhyw agwedd o etifeddiaeth Kate Roberts a’r ardal gafodd cymaint o ddylanwad arni.
Clwb Cynghaneddu
Mae Karen Owen yn cynnal gwersi cynghaneddu yng Nghae’r Gors bob wythnos. Fe fyddwn ni’n cynnwys cerdd gyfansoddwyd gan un o’r criw ym mhob colofn a dyma’r gyntaf o waith Arwel Roberts;
Cae’r Gors
Am hir bu’n wag, yn gragen – heb ei do
a heb dân, heb awen;
ond wele, trowyd dalen
yn y llyfr sy’n dathlu’n llên.
Arwel Roberts
Nadolig Fictorianaidd yng Nghae'r Gors, Canolfan Dreftadaeth Kate Roberts, 6/12/08
Oglau tân glo a chyflaith. Swn pwdin yn berwi a chwerthin plant…Dewch i weld y ty wedi’i addurno’n arbennig ar gyfer y Nadolig ddydd Sadwrn, Rhagfyr 6ed rhwng 1 a 4 o’r gloch. Bydd Iwan Meical Jones, awdur a phennaeth Gofal Casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn ymuno â’r dathliadau am 2 o’r gloch. Bydd yn trafod Hen Ffordd Gymreig o Fyw/ A Welsh Way of Life (Y Lolfa £14.95) sef cyfrol ddwyieithog sy’n trafod bywyd a gwaith y ffotograffydd John Thomas, a deithiodd hyd a lled Cymru ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn tynnu lluniau.
Meddai Iwan Meical: “Mae ei waith yn annatod gysylltiedig â Chymru'r cyfnod hwnnw…mewn oes pan oedd pawb yn galw am bortreadau oedd yn eu dangos fel pobl barchus, roedd John Thomas yn eithriad oherwydd ei fod yn dewis tynnu lluniau gweithwyr cyffredin, a hyd yn oed gardotwyr a phobl feddw.”
Bydd cyfle i brynu copïau o’r gyfrol newydd hon yn ystod y prynhawn, yn ogystal ag anrhegion Nadolig amrywiol yn siop y Ganolfan Dreftadaeth. Ffoniwch 01286 831 715 am fwy o wybodaeth
Oriau Agor Rhifau Ffôn |