![]() |
|---|
Yn 1965, prynodd Kate Roberts hen gartref ei phlentyndod - a chartref ei rhieni nes iddynt symud i Faesteg yn 1923 - gan Brian Jones. Ni chafodd brynu’r tir, ond penderfynodd drosglwyddo’r tŷ i ofal Ymddiredolwyr – Islwyn Ffowc Ellis, J R Jones, R E Jones, Cassie Davies, John Richard Cadwaladr, Ifor Wyn Williams, John Gwilym Jones, ac Elwyn Roberts, oedd i gyd yn aelodau amlwg o Blaid Cymru – i’w gadw fel ‘Adfail Rheoledig’.
Aethpwyd ati i ddiogleu’r adeilad yn 1967, o ganlyniad i sefydlu Cronfa Deyrnged Dr
![]() |
|---|
Kate Roberts yn 1965, a chasglwyd dros £1,300, oedd yn ddigon i aelodau’r Gronfa brynu Cae’r Gors ond nid yn ddigon i adfer y tŷ. Penderfynodd y pensaer ei ddi-doi ac i dynnu’r hen blaster, gan adael muriau moel y tyddyn yn gwmni unig i’r giât mochyn. Yn 1969 cyflwynwyd Cae’r Gors i’r genedl, a chafodd y tyddyn ei adael am flynyddoedd wedi hynny dan ofal y Gronfa Deyrnged, ond mewn cyflwr adfaeliedig.
Fodd bynnag, ddeng mlynedd ar ôl marwolaeth Kate Roberts yn 1985, fis Tachwedd 1995, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn Llyfrgell Caernarfon gan rai a oedd yn pryderu ynghylch cyflwr yr adeilad, ac a oedd yn dymuno gweld y tyddyn yn cael ei ddefnyddio i ddiben amgenach na lloches i ddefaid yr ardal! Yn y cyfarfod hwn y sefydlwyd Cyfeillion Cae’r Gors, gyda’r bwriad o ddechrau codi arian er mwyn adnewyddu Cae’r Gors i fod yn gofeb barhaus i’r llenor.
![]() |
|---|
Ymysg y Cyfeillion hyn, a fu’n gyfrifol am gychwyn ar y gwaith o godi arian a sefydlu canolfan dreftadaeth, roedd y diweddar Guto Roberts a’i wraig Marian, y diweddar brif lenor, Eurig Wyn a’r cynhyrchydd teledu o Rosgadfan, Norman Williams. Ymysg y cefnogwyr yn cyfarfod hwnnw, roedd Dewi Tomos, o Rostryfan, sydd bellach yn Gadeirydd Cyfeillion Cae’r Gors.
Yn 1997, cyflwynwyd Cae’r Gors i’r Cyfeillion gan ddau o’r Ymddiriedolwyr gwreiddiol, Islwyn Ffowc Ellis ac Ifor Wyn Williams, ac etholwyd Ymddiriedolwyr newydd er mwyn parhau â’r gwaith.
Yn 2001, penderfynodd y Cyfeillion wneud cais am arian gan Gronfa Dreftadtaeth y Loteri i ddatblygu’r cynllun o sefydlu canolfan yng Nghae’r Gors.
Cafodd y gwaith o sefydlu Canolfan Dreftadaeth Kate Roberts ei gychwyn dros ddeugain mlynedd yn ôl felly. Mae hi wedi bod yn daith hir a llafurus, ond erbyn hyn, mae’r holl waith caled wedi dwyn ffrwyth, ac mae yn Rhosgadfan bellach gofeb haeddiannol i un o lenorion gorau ein cenedl.
Datganiad Hygyrchedd - cliciwch yma
Hefyd:
Oriau Agor Rhifau Ffôn |
![]()