Canolfan Dreftadaeth Cae'r Gors

“Chwareli a roes fod i’r ardal...”
Y Lôn Wen

Hanes yr Ardal

Mae llethrau is Moeltryfan a’r Cilgwyn yn frith o olion cynhanesyddol, yn gytiau a chaeau, yn tystio i bresenoldeb pobl yma dros o leiaf ddau fileniwm. Mewn cyfnod diweddarach cyn datblygiad y chwareli yr unig anheddau fyddai’r hafotai, ar y tir o gwmpas ble mae pentrefi’r Groeslon, Carmel a Rhostryfan heddiw. Felly ardal brin iawn ei phoblogaeth, yn bennaf yn dir pori i wartheg a defaid.

Dechreuodd twf y diwydiant llechi rhwng 1750 ac 1800, pan ymunodd chwarelwyr unigol â mentrau cydweithredol gan ddechrau cloddio o ddifri i chwilio am lechfaen. Yn raddol dechreuodd pobl symud yma i fyw, o waelodion y plwyfi cyfagos i ddechrau ac yna o Lŷn a Môn, gan godi tyddynnod ar y tir comin.

Datblygodd ffordd o fyw unigryw'r tyddynnwr-chwarelwr, yr economi ddeuol ble gweithid mewn diwydiant cloddiol trwm tra’n perthyn i fyd amaeth yr un pryd.

Pan gaewyd y rhan helaethaf o’r tir rhesymol i godi tyddyn arno, a’r chwareli yn parhau i gynyddu a galw am fwy o weithwyr, y cam naturiol nesaf oedd codi’r pentrefi chwarelyddol, a ddaethant i fod mewn dim o dro yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ar frig y diwydiant llechi, roedd tua dau ddwsiwn o chwareli ar draws yr ardal, gan gyflogi hyd at 3,000 o ddynion a bechgyn lleol.

Roedd y pentrefi diwydiannol niferus yma’n llawn prysurdeb nodweddiadol o gymdeithas newydd a chyffro diwydiant ffyniannus. Tyfodd cymdeithas arbennig oherwydd nifer o ffactorau, un glos gyda chynifer o ddynion yn gweithio gyda’i gilydd, y tyddynwyr yn dibynnu ar gymwynasau ar adegau prysur o’r flwyddyn, dylanwad cryf Anghydffurfiaeth, a natur Gymreig y diwydiant llechi.

Ansefydlog fu gwaith yn y chwareli yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif gyda gostyngiad cyson mewn cynnyrch a’r nifer a gyflogid. Arweiniodd hyn at ddiweithdra, diboblogi, a phroblemau economaidd.

Hefyd: