Mae llawer o chwedloniaeth a straeon gwerin yn perthyn i ardal Dyffryn Nantlle.
Ceir llawer o hen straeon tylwyth teg yn gysylltiedig â mannau cyfagos, fel hanes Llyn y Dywarchen a’r ferch hudolus a gipiodd galon Einyr, mab fferm Drws-y-Coed. Mae stori arall am Forwyn Garth Dorwen, ffermdy ar gyrion Penygroes.
Ceir straeon cariad, fel stori Rhos y Pawl, sy’n adrodd hanes Owain, mab y Gelli-ffrydiau yn treulio noson gyfan ar y rhostir wrth ei gartref, a hynny yn noeth, ac ar noson oer o Ionawr, er mwyn ennill llaw ei gariad a chyflawni’r dasg arswydus a osodwyd gan ei thad.
Mae straeon eraill yn gysylltiedig ag enwau lleoedd fel Pont y Cim, Rhos-yr-unman, Llwyn-y-ne a Chastell Cidwm.
Yn yr ardal hon hefyd y cafodd Pedwaredd Gainc y Mabinogi, Math Fab Mathonwy, ei lleoli. Mae’r hanes yn frith o gyfeiriadau at leoedd cyfagos, er enghraifft, o Abermenai tua Caer Arianrhod yr hwyliodd Gwydion a’r mab dienw, a enwyd yn Lleu Llaw Gyffes trwy hud Gwydion - dyna darddiad yr enw Dinas Dinlle. Daw enwau o’r arfordir rhwng Pontllyfni a Chlynnog - Trwyn Maen Dylan, Pennarth, ffermydd Bryn Gwydion a Lleuar - o ble y dilynodd Gwydion y baedd/hwch tra’n chwilio am Lleu. Dolbebin ar gyrion Talysarn oedd cartre’r forwyn Goewin, ac ym Maladeulyn y gwelodd Gwydion yr eryr truan ar gangen derwen a’i droi’n ôl yn Lleu, yn y lle a elwir heddiw yn Nantlle.
Hefyd:
Oriau Agor Rhifau Ffôn |
![]()