![]() |
|---|
Saif pentref Rhosgadfan ar odre mynyddoedd Moel Smytho a Moeltryfan, yn rhan o dir oedd yn gyfangwbl yn dir Comin Uwchgwyrfai ychydig dros ddwy ganrif yn ôl, ac oedd yn cynnwys Mynydd Mawr, Moel Smytho, Moeltryfan a Mynydd y Cilgwyn a’u llethrau.
Mae’r dirwedd yn nodweddiadol o effeithiau rhewlifoedd, yn dir tonnog, gwlyb, llawn pantiau a phonciau. Ceir nifer helaeth o ffrydiau a phyllau, gan gynnwys tarddiadau afonydd Carrog, Wyled a Llifon a’u llednentydd. Mae’r llyn mwyaf o ddigon, Llyn Ffynhonnau, yn swatio wrth droed Mynydd Mawr. Ymhlith y mawnogydd niferus mae Cors Dafarn, Cors Goch, Cors Tan-y-foel a Chors y Bryniau.
Ceir amrywiaeth o gynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt, yn greigiau serth, ffriddoedd mynydd gweiriog, lleiniau eang o rostir grugog a’r mawnogydd ar y tir comin. Mae olion y chwareli, y tyllau a’r tomennydd, yn creu cynefin arbennig arall.
![]() |
|---|
Ar wahân i’r ychydig dir coediog a geir o gwmpas yr afonydd, tir agored a geir yma’n bennaf, a’r llethrau’n agored i wyntoedd y môr, gan arwain yn anochel at lawer o wyntoedd cryfion a glaw a niwl. Ond, na phoener, ceir digon o dywydd braf yma hefyd, a phan fydd yn ddiwrnod clir, nid oes golygfeydd gwell i’w cael. O sefyll ar ben y Lôn Wen ar ddiwrnod braf ceir golygfeydd ysblennydd o’r ardal; gallwch weld yr holl ffordd o Ben Llyn i Fôn, a gweld y môr yn ymestyn ymhell o’ch blaen a mynyddoedd Eryri yn sefyll yn gadarn o’ch ôl.
Hefyd:
Oriau Agor Rhifau Ffôn |
![]()